Morris T. Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:05, 23 Rhagfyr 2018 gan Cledrau (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Morris T. Williams (1900-1946) yn Y Groeslon ym 1900. Ei gartref oedd 5 Rhes Rathbone.[1] Fe briododd â'r Ddr. Kate Roberts ym 1928. Rhwng 1929 a 1935 buont yn byw yn y de, yn gyntaf yng Nghaerdydd, ac wedyn yn Nhon-y-pandy, pan brynwyd Gwasg Gee ganddynt.[2] Ymroddai'r ddau i redeg Gwasg Gee, Dinbych hyd ei farwolaeth, a pharhaodd Kate Roberts i redeg y wasg ar ôl ei golli.[3] Dywedir iddo fod yn ffrind agos iawn i E. Prosser Rhys, y llenor a'r newyddiadurwr (1901-1945), gan gyhoeddi ei waith barddonol. Bu'n ysgrifenydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Cenedlaethol Dinbych,1939.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Hanes y Groeslon. (Caernarfon, 2000), t.111
  2. Meic Stephens, (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, (Caerdydd, 1986), t.509
  3. Wicipedia, Erthygl ar Kate Roberts, [1]