Aliortus
Gweler yma am Garreg Aliortus
Ni wyddys llawer am hanes Aliortus, ond credir ei fod wedi byw yn ardal Llanaelhaearn yn y 7g. Darganfuwyd carreg mewn cae gyferbyn ag Eglwys Llanaelhaearn yn 1865, gyda ysgrif Ladin ar ei hyd.
Ceir y cyfieithiad yma o’r ysgrifen, “Yma y gorweddai Aliortus, dyn o Elmet”. Awgrymai hyn fod Aliortus wedi mudo i’r cwmwd o Elmet, sef hen deyrnas o gwmpas Swydd Efrog yng Ngogledd Lloegr. Awgrymai’r darganfyddiad yma fod mewnfudwyr yn yr ardal cyn belled a’r 6g neu'r 7g.