George Twisleton

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:56, 23 Hydref 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Swyddog ym myddin y senedd oedd George Twistleon (1618-1667).

Ganwyd yn Barley Hall, Sir Efrog i John Twistleton. Buodd yn gwasanaethu o dan y Cadfridog Mytton, a cynorthwyodd yng ngwarchae ac ennill Castell Dinbych. Roedd yn lywydd ar y Castell yn 1647. Priododd â Mari Glyn, merch William Glyn, Y Lleuar a disgynnydd i William Glynn y Sarsiant. Roedd yn nodedig am ymgyrchu yn erbyn cefnogwyr Siarl frenin, a bu yn ymladd ar y Dalar Hir yn Llandegai ar 5 Mehefin 1648. Roedd yn aelod o’r Uchel Lys, ac gwnaed ef yn aelod seneddol dros Ynys Môn yn 1659. Ymsefydlodd yn y Lleuar, a bu farw ar 12 Mai 1667. Claddwyd ef yn eglwys Clynnog, lle gwelir ei fedd hyd heddiw.