John Robinson, perchennog chwareli
Ganed John Robinson yn Lerpwl tua 1831. Erbyn 1871 roedd yn byw ym Mhlas Tal-y-sarn gyda'i deulu ac fe nodir yn y cyfrifiad fod ganddo wraig Eliza a phump o blant, dwy ferch a thri mab, a phawb ond y ferch ieuengaf wedi eu geni yn Lerpwl; yn Llundain tua 1861 gafodd y ferch ieuengaf, Eliza, ei geni. Yn ôl cyfrifiad 1871, roedd ganddo ddwy forwyn yn y plas. Fe'i ddisgrifir fel perchennog chwarel lechi.[1].
Roedd o'n dal i fyw ym Mhlas Tal-y-sarn ym 1895, ac erbyn hynny roedd wedi ei goidi'n ynad heddwch.[2] Bu farw 1900.[3]
Ni ddylid ei gymysgu â sawl John Robinson arall: John Robinson, mab Herbert Robinson o Dal-y-sarn, a feddyddiwyd ym 1777 ac oedd yn chwarelwr; a'i fab a aned ym 1805 yn Llanllyfni, ac sy'n cael ei restru fel Asiant Chwarel Lechi yng Nghyfrifiad 1861, yn byw yn Dorothea House, Tal-y-sarn. Dyn lleol oedd hwn, a drafododd y cyfrifiad yn Gymraeg yn ol y llyfr cyfrif.[4] Roedd Robinson yn gyfenw ymysg Cymry'r ardal y pryd hynny fel heddiw, ond dichon nad oedd gan John Robinson, Plas Tal-y-sarn, unrhyw gysylltiad a'r rhain.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma