Cloddfa'r Coed

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:46, 31 Ionawr 2019 gan Cledrau (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Cloddfa'r Coed (neu Gloddfa Goed) yn chwarel lechi yn Nyffryn Nantlle. Saif rhwng Tal-y-sarn a Bro Silyn ar ochr ogleddol i Afon Llyfnwy (SH 493529). Fe'i hagorwyd tua 1790 ac ar ôl cyfnod o segurdod, fe'i hailagorwyd ym 1870, er ychydig a weithiai yno - 4 o ddynion ym 1873 a dim ond 10 mor hwyr â 1937. Prynwyd y chwarel gan gwmni Chwarel Dorothea yn y 1940au, ond ni defnyddiwyd hi.[1]

Yn ôl pob sôn, roedd y llechi a gynhyrchwyd o safon reit dda, er nad oeddynt cystal ârhai Cloddfa Glai oedd yn union i'r gorllewin o'r twll hwn. Diffyg y chwarel, ar wahân i'r drafferth o waredu dŵr, oedd diffyg lle i arllwys y gwastraff a c fe gadwodd hyn y chwarel rhag datblygu. Am flynyddoedd wedi cau'r chwarel, gweithwyd y tipiau hyn am wastraff y gellid ei droi'n llechi cwrs-atal-tamprwydd.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, (Newton Abbot, 1974), t. 314.
  2. Idwal Hughes, Chwareli Dyffryn Nantlle, (Pen-y-groes, 1980), tt.11-12