Cwmni Lloyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:14, 5 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Cwmni Lloyd gan gyn aelod o staff Crosville, Wyn Lloyd, yn 2001. O'r dechrau bu pencadlys y cwmni ym Machynlleth. O dipyn i beth datblygwyd rhwydwaith o deithiau yn ardal gorllewin Sir Drefaldwyn ac, ar ôl newid strategaeth yn 2010, ehangwyd i Dde Meirionnydd a sefydlwyd nifer o deithiau hirach, megis yr X28 o Aberystwyth i Fachynlleth. Cymerwyd taith T2 (a oedd gynt yn un o deithiau Arriva) rhwng Aberystwyth a Bangor, gan deithio trwy Ben-y-groes), ar y cyd â Moduron Express. Ar ôl i Foduron Express fethu ar ddechrau 2018, mae Bysiau Lloyd wedi bod yn darparu'r unig wasanaeth rhwng Porthmadog a Chaernarfon, trwy gynyddu nifer y teithiau i Aberystwyth ac yn ôl o Fangor.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Wikipedia, [1]