Alexander Marshall

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:57, 9 Medi 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Alexander Marshall ym 1816 yn yr Alban. Mae'n bur debyg mai Alexander Marshall a Janet Mitchell oedd enwau ei rieni, o Irvine, Swydd Ayr. Bu yn Iwerddon am ran o'i yrfa, gan briodi ei wraig, Eliza Anne (oedd 18 mlynedd yn iau nag ef) yno. Roedd ei ferch hynaf Fanny wedi ei geni yno ym 1856, ond yr oedd ei ail blentyn, Amelia Jannet, wedi ei geni ym mhlwyf Llanbeblig ddwy flynedd yn ddiweddarach. Gellir amau felly iddo ddod i ardal Uwchgwyrfai tua 1856-7, er mwyn derbyn swydd efo Rheilffordd Nantlle. Fe'i ddisgrifir yng nghfrifiad 1861 fel "rheolwr rheilffordd". Erbyn hynny, roedd trydydd plentyn, Eliza Anne, wedi ei geni i'r pâr, y tro hwn yn Llanllyfni. Ym 1861, cyfeiriad y teulu oedd Pen-y-groes,ychydig o ddrysau o Dafarn y Stag's Head. - a drws nesaf i Hugh Hughes, portar ar y rheilffordd.[1]

Roedd Marshall yn rheolwr cyffredinol Rheilffordd Nantlle dan Edward Preston, y prydleswr o 1856 ymlaen.[2] Fe adawodd ei swydd, fodd bynnag, ym 1862, gan symud o'r ardal. Mae'n debyg iddo fod yn boblogaidd ymysg y dosbarth busnes yn Nyffryn Nantlle, gan iddynt gynnal cinio ffarwèl iddo yn Nhafarn y Stag, Pen-y-groes, pan dderbyniodd dysteb o gwpan a llwyau arian. Gofidiai'r rhai oedd yno am yr amgylchiadau a'i gorfododd i ymddiswyddo o'i swydd.[3]

Ceir sawl cyfeiriad ato yn y papurau newydd amdano yng nghyd-destun y rheilffordd o Gonwy i Lanrwst oedd yn cael ei hadeiladu, 1861-3.[4] Gan mai Edward Preston oedd yr is-gontractor ar gyfer adeiladu'r lein honno, mae'n debyg iddo fod â pherthynas broffesiynol gyda Preston y tu hwnt i fusnes Rheilffordd Nantlle.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad 1861, plwyf Llanllyfni.
  2. JIC Boyd Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf 1, tt.29,112.
  3. North Wales Chronicle, 15.11.1862.
  4. North Wales Chronicle, 1861-3, passim.