Gorsaf reilffordd Llanwnda
Enw gwreiddiol Gorsaf Llanwnda oedd Pwllheli Road. Roedd cyn lleied o dai yn yr ardal fel mai prif bwrpas yr orsaf oedd gwasanaethu'r tir isel ger y môr sy'n ymestyn o Lanwnda i Glynnog-fawr a Threfor, gan nad oedd gorsaf agosach i'r mannau hynny. Mae'r safle bellach yn faes parcio ar gyfer Lon Eifion, gyferbyn â thafarn (gaeëdig) y Goat. Roedd yn 900 llath o orsaf Dinas ar y naill ochr, ac ychydig dros filltir o orsaf Y Groeslon ar y llall.
Nid oedd yno ond un platfform ac un seidin a ddefnyddid ar gyfer wagenni glo fel arfer.
Tua diwedd y 19eg ganrif, roedd gwaith trwsio wagenni y tu ôl i resdai Gwêl-y-môr. Yng nghyfeiriadur Sutton am 1889-90, dangosir manylion y cwmni bach hwn, sef R Williams a'i fab, depo gwagenni rheilffordd.[1] Roedd seidin ar gyfer y gwaith hwn yn arwain oddi ar y brif lein i'r darn tir sydd bellach yn goedlan rhwng Lôn Eifion a ffordd yr A487.
Fe agorwyd yr orsaf gan Reilffordd Sir Gaernarfon ym 1867 ar safle hen orsaf Rheilffordd Nantlle, ac fe'i chaewyd gan Reilffyrdd Prtydeinig ym 1964.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma