Bodellog (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:23, 2 Awst 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyfeirir at Bodellog fel trefgordd a phentrefan a leolir yn ardal Dinas, Llanwnda. Roedds y ffin i'r gogledd yn cael ei ffurfio gan Afon Gwyrfai tra bod trefgorddi Dinlle, Llanwnda a Rhedynogfelen yn ffinioi â Bodelklog tua'r de. Fe gynhwysai dir gwyllt i gyfeiriad y mynydd hefyd. Maes o law, fe rannwyd y rhan fwyaf o'r trefgordd yn dair ystad fechan yn cynnwys Plas-y-bont a elwid gynt, fel y trefgordd, yn Bodellog.Yn y man cafodd ystad y faenol ddylanwad yn yr ardal, ac ym 1584, ceir teulu'r Faenol yn rhoi prydles 21 mlynedd i Lewis ap William, mab a brawd y tenantiaid gynt.Taid Lewis, a enwyd fel William o Fodellog yn y dogfennau, yw'r tenant cyntaf Bodellog y ceir sôn amdano, a hynny ar ddechrau'r 16g. O gyfnod Lewis ap William, mabwysiadwyd y cyfenw Lewis, ac roedd yr ysgolhaig ac awdur Huw Lewis yn fab iddo.[1]

Mae cyfeiriad cynnar iawn at Bodellog yn y ‘Record of Carnarvon’ o 1470 fel ‘Botelok’. Yr oedd y tref hwn yn cynnwys y tir rhwng Afon Gochoer ac Afon Faig, yn ôl Eben Fardd. Yr oedd Bodychain, Caer Du a Nantcall oll o fewn cyffiniau’r tref hwn, yn ogystal â Melin Bryn y Gro – a wasanaethodd fel eu melin.

Dadleuai W. Gilbert Williams fod camddealltwriaeth ynglŷn â’r datganiad uchod, gan fod ‘Bodellog’ yn hen enw ar ‘Plas y Bont’ hefyd, ac fod Melin y Bontnewydd yn cael eu chymysgu â Melin Bryn y Gro, gan mai enwau hŷn am felin y Bontnewydd, sef yr enw ar dafod-leferydd yn y 17g, oedd Melin Bodellog a enwid hefyd yn Felin-y-groes. Hawdd gweld sut y gellir cymysgu enwau melin y gro a melin y groes.[2]

Roedd hefyd achos o gwmpas yr unfed ganrif ar bymtheg, pan ddaru William Glyn y Siarsiant geisio meddiannu’r lle hwn, a chafodd wrthwynebiad ffyrnig oddi wrth William ap Madog o’r Pengwern, Llanwnda.[3]

Gweler hefyd o dan Plas-y-bont am fanylion diweddarach am yr adeilad a'r teulu.


Cyfeiriadau

  1. W Gilbert Williams, Hen Deuluoedd Llanwnda - II. Lewisiad Plas-y-bont, Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.5 (1944), tt.41-3.
  2. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llyn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011)
  3. W. Gilbert Williams, Bodellog Cymru, 1915 (Cyf. 48)