Tryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:08, 6 Tachwedd 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tryfan oedd enw darn helaeth o dir rhwng pentrefi modern Y Groeslon a Rhostryfan. Roedd yn gorwedd yn rhannol ym mhlwyf Llandwrog ac yn rhannol ym mhlwyf Llanwnda. Yn ystod y 16g a'r 17g, roedd yn cynnwys o leiaf dair rhandir: Tryfan Mawr, lle cartrefai teulu Gruffydd; Gerlan y Cyff, lle trigai teulu gyda'r cyfenw Jones; a Tryfan Bach, lle trigai teulu o Lwydiaid. Roedd teulu Gruffydd yn galw eu hunain yn ŵyr bonheddig (generosus neu gentleman yn nogfennau'r dydd) - a phawb yn arddel y disgrifiad hwnnw hefyd. Rhydd-ddeiliaid neu iwmyn oedd y ddau deulu arall, er bod ganddynt beth tir a drowyd yn y man yn dyddynod i blant y teulu, trwy amgáu darnau o'r rhos a elwid yn Rhos y Tryfan.[1]

Cyfeiriadau

  1. W Gilbert Williams, Hen Deuluoedd Llanwnda: VI - Llwydiaid y Tryfan Bach, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf 9, t.59