Rhyd y Meirch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:48, 3 Gorffennaf 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Rhyd y meirch yn rhyd ar Afon Foryd lle mae'r ffordd drol rhwng Dinas Dinlle a fferm Cefnhengwrt yn croesi'r afon. Mae pompren, neu bont droed, gerllaw, a elwir yn Bont Rhyd-y-meirch. Nid oes arwydd bod y rhyd yn cael ei defnyddio bellach er bod peth cerdded ar y ffordd drol (sydd yn llwybr cyhoeddus). Roedd y ffordd drol yn gyfrwng i ffermwyr gyrraedd y traeth a hefyd y caeau a gaewyd i mewn wedi i'r morfa gael ei sychu tua 1808 - ond heddiw prin y gellid gyrru hyyd yn oed tractor ar hyd rhai darnau ohoni.