Cyngor Gwynedd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:56, 20 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Bathodyn gwreiddiol Cyngor Gwynedd

Cyngor Gwynedd yw enw'r awdurdod lleol a ddaeth i rym ym 1996 pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru, gan ffurfio awdurdodau unedol, hynny yw awdurdodau a oedd yn gyfrifol am bob agwedd ar weinyddiad a gwasaenaeth lleol a fu cyn hynny'n rhanedig rhwng cynghorau sir a chynghorau dosbarth.

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnwys rhan o'r hen sir Gaernarfon, i'r gorllewin o'r ffin rhwng Abergwyngregin a Llanfairfechan ac i'r gorllewin o Ben-y-gwryd, Nant Gwynant, a hefyd yr oll o'r hen Sir Feirionnydd ag eithrio hen gwmwd Edeirnion (ardal Corwen).

Ar hyn o bryd (2018) mae etholaethau'r cyngor o fewn Uwchgwyrfai fel a ganlyn: Clynnog; Llanaelhaearn; Llanllyfni; Llanwnda; Pen-y-groes; Tal-y-sarn; ac Y Groeslon.