Clynnog a Threfor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:10, 30 Medi 2018 gan Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwmni bysiau lleol gyda'i bencadlys yn Nhrefor yw cwmni bysiau Clynnog a Threfor. Sefydlwyd y cwmni ym 1912, gyda llawer o bobl leol yn prynu cyfranddaliadau. Oherwydd lliw eu bysiau am flynyddoedd, enw lleol am y cwmni yw "moto coch". Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'r bysiau sydd yn rhedeg ar eu gwasanaeth o Bwllheli i Gaernarfon, (llwybr bysiau 12) wedi'u paentio'n wyn.[1] Rhennir y gwasanaeth hwnnw gyda chwmni Berwyn.

Ar achlysur canmlwyddiant y cwmni fe gyhoeddodd ei hanes gan Geraint Jones.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol
  2. Geraint Jones, Moto Ni, Moto Coch (Carreg Gwalch, 2012)