Mynwent Bara Caws

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:04, 30 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Mynwent Bara Caws ym mhentref Llanllyfni. Cafodd ei enw rhyfedd o'r ffaith mai cysylltiedig â chapel y Bedyddwyr Albanaidd yn y pentref, sef Capel Tŷ'n Lôn (BA), Llanllyfni. Bedyddwyr Bara Caws oedd y llysenw dilornus a roddwyd i'r Bedyddwyr Albanaidd gan eu bod yn dod o bell i'r caopel ar y Sul, gan aros trwy'r dydd ac yn dod â'u bwyd syml gyda nhw.

Sefydlwyd Capel Tŷ 'n Lôn, Llanllyfni tua 1790, ond mae beddau yno sydd yn mynd yn ol i ddechreau'r 18g. Credir bod y safle wedi ei ddefnyddio gan Grynwyr yr ardal, ac felly mynwent y Crynwyr oedd y lle'n wreiddiol.

Noda O.P. Huws, Nebo, yn ei erthyglau ar wefan Dyffryn Nantlle y ffeithiau canlynol:

Heddiw yn y fynwent safai hen garreg fedd llechan ac arno’r geiriau:
Here lyeth the body of Catherine Jones, she departed this world July 1700 aged 83. Also Madeline Rog Died March 1729 aged 61.
Hefyd mae enw un Roger Cowal, ond nid yw’n hawdd darllen y geiriau i gofnodi manylion ei ddyddiadau. Mae hynny’n awgrymu’n bendant bod defnydd i’r safle fel man claddu ymhell cyn 1790. 
Cynhaliwyd cyfarfod yn y Groeslon, dydd iau Hydref 19eg 1905, ble cytunwyd yn unfrydol i gasglu addewidion (gyda tharged o £30.00) ar yr amod bod bwrdd yn cael ei sefydlu i ofalu am hen fynwent Tŷ Lon. 'Roedd disgwyl am gefnogaeth sylweddol oddi wrth y teuluoedd hynny oedd ag anwyliaid wedi eu claddu yn y fynwent, er mwyn dod a'r achos i ben mewn modd teilwng. Yr ysgrifennydd yn y cyfarfod hwnnw oedd William Williams, 7 Newbrough Street, Caernarfon. Mae nifer o feddi yn y fynwent gyda chyfeiriad Newbrough Street Caernarfon arnynt.
Yn ôl cofnodion yn y swyddfa cofnodion cyhoeddus yng Nghaernarfon, nid oes un cyfraniad, 'nag addewid wedi ei gofnodi, er i ewyllys yr hen ddoctor mynydd David Thomas Jones, Hafod Esgob, ddatgan fod arian wedi ei adael er mwyn gofalu am y fynwent. Mae copi swyddfa o’i ewyllys, oedd wedi ei brofi ym mis Mehefin 1888, yn darllen “There is a provision whereby the house occupied by the tenant Thomas Jones at Brynsisillt in Llanllyfni at the rent of £3.10 is to be paid to trustees, to be applied for from the time of death in keeping the grave of myself and family, and also the graveyard of Tynlon Baptist Chapel Llanllyfni aforesaid in good repair”.

Does neb yn gwybod i ble yr aeth yr arian hwnnw, a hyd heddiw ni all neb ddeud i sicrwydd pwy yw perchennog y fynwent.[1]

Mae'r mynwent bellach yn cael ei gynnal gan wirfoddolwyr gyda help cyrff megis y Cyngor Cymuned lleol.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Dyffryn Nantlle [1]
  2. Gwefan Dyffryn Nantlle [2]