Mynwent Bara Caws

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:48, 30 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Mynwent Bara Caws ym mhentref Llanllyfni. Cafodd ei enw rhyfedd o'r ffaith mai cysylltiedig â chapel y Bedyddwyr Albanaidd yn y pentref, sef Capel Tŷ'n Lôn (BA), Llanllyfni. Bedyddwyr Bara Caws oedd y llysenw dilornus a roddwyd i'r Bedyddwyr Albanaidd gan eu bod yn dod o bell i'r caopel ar y Sul, gan aros trwy'r dydd ac yn dod â'u bwyd syml gyda nhw.

Sefydlwyd Capel Tŷ 'n Lôn, Llanllyfni tua 1790, ond mae beddau yno sydd yn mynd yn ol i ddechreau'r 18g. Credir bod y safle wedi ei ddefnyddio gan Grynwyr yr ardal, ac felly mynwent y Crynwyr oedd y lle'n wreiddiol.

Mae'r mynwent bellach yn cael ei gynnal gan wirfoddolwyr gyda help cyrff megis y Cyngor Cymuned lleol.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Dyffryn Nantlle [1]