Capel Seion (A), Tal-y-sarn
Capel Seion oedd unig gapel y r Annibynwyr yn Nhal-y-sarn, ac erbyn heddiw (2018), hwn yw'r unig gapel o unrhyw enwad i ddal yn agored yn y pentref.
Mae gwreiddiau'r achos yn mynd yn ôl ymhell. Dywedir mai Michael Owens, aelod o Gapel Penlan, Pwllheli a chwarelwr yn Chwarel Gloddfa'r Goed oedd sylfaenydd yr achos trwy ei arferion crefyddol a drodd ei gydweithwyr, fesul tipyn, yn ddynion crefyddol eu hagwedd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma