Plygeiniau
Arferid cynnal gwasanaeth y Plygain yn fore iawn ar fore dydd Nadolig ar draws gogledd Cymru ddau gan mlynedd yn ol ond diflannodd y traddodiad bron yn llwyr ar wahan iardal gogledd Sir Drefaldwyn. Erbyn hyn, dim ond dau wasanaeth plygain a gynhelir yn Uwchgwyrfai yn flynyddol, sef:
- Plygain Eglwys Llanwnda, a gynhelir yr ail nos Sul o Ionawr ac sydd yn ail-gread diweddar o'r hen draddodiad. fe sefydlwyd tua 2013 gan Arfon Gwilym a Sioned Webb sy'n byw o fewn ffinau'r plwyf.
- Plygain Eglwys Llanllyfni, a gynhelir am 7 ar fore dydd Nadolig, ac sydd â chryn hanes iddo. Yn 2017, un o ddim ond tri gwasanaeth Plygain ar draws Cymru a gynhaliwyd ar fore Nadolig yn unol â'r hen dradoddiad - sef Llanllyfni, Lloc yn Sir y Fflint a'r Hen Gapel, Pontrobert, Maldwyn.[1]
Darllen pellach
Am fwy o wybodaeth cyffredinol am y Plygain, gweler https://cy.wikipedia.org/wiki/Y_plygain.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma