Bethesda Bach

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:20, 16 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pentref bychan ym mhlwyf a chymuned Llandwrog ar yr A499, ryw bedwar milltir o Gaernarfon tyw Bethesda Bach. Mae tarddiad yr enw'n rhywfaint o ddirgelwch gan nad oes capel erioed wedi bod yma. Ar fapiau cynharaf yr Arolwg Ordnans, ni enwir y pentref o gwbl. Ychydig o dai oedd wedi eiu codi yma ym 1840 yn ôl y map cynharaf, ond erbyn yr arolwg manwl cyntaf, 1888, galwyd y pentref ynBethesda (heb y 'bach'). Erbyn hyn roedd y tai presennol (ond am yr ystad fechan newydd sbon) wedi'u codi. Dim ond ar fap 1914 (a argraffwyd ym 1920) a mapiau mwy diweddar y gwelir yr enw llawn, Bethesda Bach.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma