Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:02, 14 Ebrill 2018 gan Twiglet48 (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cynllun Eglwys Sant Gwyndaf 1846-1848
Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda tua 1855
Eglwys Sant Gwyndaf 2009

Saif eglwys Gwyndaf Sant yn Esgobaeth Bangor, tua hanner ffordd rhwng Llandudno yn y gogledd Ddwyrain ac Ynys Enlli yn y de orllewin. Dywed traddodiad fod Gwyndaf Hên yn un o feibion Emyr Llydaw. Ebrill 21ain yw ei Wylmabsant. Ail-adeiladwyd yr eglwys yn gyfangwbl yn y flwyddyn 1847. Ar un adeg, safai porth elor yn y fynedfa.