Tafarn Pen Nionyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:11, 9 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Tafarn Pennionyn wedi bod yn enw answyddogol ar y Llanfair Arms Hotel yn Y Groeslon ers blynyddoedd lawer, ond yn ystod y 1980au, wedi clywed yr esboniad arferol ar yr enw, fe fabwysiadodd Marston's, y bragdy oedd yn berchen ar y dafarn, yn enw fel enw swyddogol. Codwyd y dafarn wrth y groesffordd (sef y groeslon) wreiddiol yn ystod y 19g, efallai yn sgil agor Gorsaf reilfgfordd y Groeslon. Fe gafodd ei henw gwreiddiol o'r ffaith ei bod yn sefyll ar dir tyddyn Talar Siencyn oedd yn eiddo i Ystâd Plas Llanfair-isgaer, perchenogion sawl fferm yng nghyffiniau'r Groeslon ar y pryd.

Daw'r enw Pennionyn o'r stori fod tafarnwr oedd arfer cadw'r lle yn meddu ar ben crwn oedd yn gwbl moel a sgleiniog, ac felly yn debyg i nionyn! Mae lle i amau'r stori gan nad yw'r dafarn mor hen â hynny a gellid disgwyl y byddai rhywrai yn yr ardal wedi clywed pwy ydoedd. Esboniad rhai mwy pwyllog yw bod yr enw yn llurgeiniad o'r gair Pen Lôn Glyn, gan fod y lôn sydd yn troi wrth dalcen y dafarn yn mynd i lawr Allt Cefn Glyn i gyfeiriad Groeslon Ffrwd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma