Fferi Abermenai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:59, 9 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Abermenai yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i Fae Caernarfon. Dyma fan mwyaf cul yr holl afon heblaw amy man lle codwyd Pont Menai, ac yn y gorffennol, bu'n man croesi i Ynys Môn ar gyfer teithwyr o Ben Llŷn. Pan oedd teiithio ar draws y tir yn y Canol Oesoedd yn anodd oherwydd diffyg ffyrdd a'r holl fannau gwlyb heb eu traenio - yn arbennig ar dir isel ger y môr, yn aml y ffordd hawsaf oedd ar hyd traethau ar gyfnodau o drai, ac mae yna draeth gweddol dywodlyd yr holl ffordd o Aberdesach i ben draw penrhyn Belan ar lan Abermenai. Noda Gerallt Gymro iddo fo, yr Archesgob Baldwin a'u mintai, groesi'r Fenai yn fan hyn ar eu taith ym 1188 i godi byddin i ymladd yn y Trydedd Groesgad.[1]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Wicipedia: Gerallt Gymro https://cy.wikipedia.org/wiki/Gerallt_Gymro, adalwyd 09.04.2018