Syr Ifor Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:09, 2 Ebrill 2018 gan Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Syr Ifor Williams

Ysgolhaig athrylithgar oedd Ifor Williams (1881-1965).

Ganed ym Mhendinas, Tre-garth, Arfon, 16 Ebrill 1881. Bu yn Ysgol Friars ym Mangor am flwyddyn yn unig gan iddo anafu ei gefn a’i gaethiwo i’r gwely am rai blynyddoedd.

Wedi gwella aeth i Ysgol Clynnog yn 1901 fel ymgeisydd am y weinidogaeth gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, ac i Goleg Bangor yn 1902 a graddio mewn Groeg yn 1905 ac yna yn y Gymraeg yn 1906. Yn ystod y sesiwn 1906-7 bu’n gynorthwywr i John Morris-Jones yn yr Adran Gymraeg ac yn gweithio ar radd MA. Penodwyd ef yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn y Gymraeg yn 1907, a chafodd Gadair bersonol yn 1920. Ymddeolodd yn 1947, a bu farw 4 Tachwedd 1965.

Ei brif faes ymchwil oedd yr Hengerdd, sef y farddoniaeth gynharaf yn Gymraeg, a gysylltir ag enwau Aneirin, Taliesin a Llywarch Hen, a rhai cerddi eraill dienw. Gweithiodd yn ddi-fwlch ar gerdd Aneirin, Y Gododdin, rhwng 1906 a 1938. Ystyrir ei lyfrau yn orchestwaith: Canu Aneirin (1938),[1] Canu Llywarch Hen (1953), a Chanu Taliesin (1960).

Cyhoeddodd gannoedd o nodiadau ar ystyron geiriau yn ei lyfrau ac ym Mwletin y Bwrdd Celtaidd ac yn fynych byddai’n tynnu sylw at eiriau cyfatebol yn yr ieithoedd Celtaidd eraill. Y mae’r nodiadau hyn yn amhrisiadwy, nid yn unig i bawb sy’n gweithio ar hen destun ond i ysgolheictod Cymraeg yn gyffredinol. Ymddiddorai yn fawr mewn enwau lleoedd. Cyhoeddodd gyfres o erthyglau ar enwau lleoedd ardal Bethesda yn y papur lleol, Y Gwyliwr, yn 1907 a chyhoeddodd y gyfrol Enwau Lleoedd (1945).

Gwaith arall amhrisiadwy a wnaeth oedd cynhyrchu defnydd darllen i ysgolion a cholegau, e.e. Breuddwyd Maxen (1908), Cyfranc Lludd a Llevelys (1910), Chwedlau Odo (1926), Pedair Cainc y Mabinogi (1930). Yn 1914 cyhoeddodd ddetholiad o gywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr ar y cyd â Thomas Roberts.[2]

Yr oedd yn ddarlledwr poblogaidd ar y radio a chyhoeddwyd rhai o’i sgyrsiau : Meddwn i (1946), I ddifyrru’r Amser (1959) a Meddai Syr Ifor (1968).

Priododd â Myfanwy Jones, Cae-glas,[3]Pontlyfni yw'r ffordd gywir o ysgrifennu'r enw hwn yn ôl Ifor Williams yn hytrach na Phontllyfni ond gan mai Pontllyfni a ddywedir ar lafar dyna'r enw a arferir heddiw.</ref> yn 1913. Roedd ganddynt ferch a mab. Bu farw 4 Tachwedd 1965 a chladdwyd ef ym mynwent Brynaerau.



Ffynhonellau

  1. Yn 1952 cyhoeddwyd argraffiad newydd dan olygyddiaeth Thomas Parry.
  2. Am ragor o fanylion am ei gyhoeddiadau ayb gweler Y Bywgraffiadur Cymreig.
  3. Pontlyfni,