Rhosnenan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:06, 2 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rhosnenan oedd hen enw'r tir lle saif y rhan fwyaf o bentref Y Groeslon heddiw, cyn i'r pentref ei hun gael ei ffurfio a gwmpas yr orsaf a agorwyd gan Reilffordd Nantlle ym 1828. Y pryd hynny, dim ond croesffordd oedd yno lle croesai'r ffordd o Gaernarfon i gyfeiriad [[Dyffryn Nantlle][] y ffordd o'r mynydd i ffermydd llawr gwlad plwyf Llandwrog.

Mae enw ar yr ardal yn hen iawn, gan iddo ymddangos mewn dogfennau o tua 1500 ymlaen.[1], a chlywir rhai o hyd yn honni mai hen enw Y Groeslon oedd Rhosnenan.

Mae'r elfen Nenan yn parhau mewn nifer o enwau tai uwch i fyny'r allt na'r lôn bost, megis Bryn-nenan a Phenrhos Nenan. ac mae'n glir mai Rhosnennan oedd enw'r tir gweddol wastad ar ben yr allt o bobtu'r ffordd sy'n arwain i gyfeiriad Carmel, a dichon bod yr holl enwau yn y darn hwnnw o'r Groeslon megis Bryn-rhos, Uwchlaw'r Rhos a Chefn Rhos hefyd yn cyfeirio at Rosnenan. Mae llythyr ymysg casgliad archifol Glynllifon yn cyfeirio at denantiaid yr Arglwydd Newborough yn cau darnau ogomin Rhos Nenan at eu defnydd eu hunain. Roedd hyn wedi bod yn mynd ymlaen ers o leiaf 1835,[2] ac yn wir, roedd bythynnwyr a oedd wedi codi tai ar Ros nennan wedi deisebu'r Senedd yn erbyn bwriadau'r Arglwydd Newborough i'w disodli trwy amgáu'r comin.[3] Tir comin agored oedd Rhos Nenan felly yn y lle cyntaf ac yn eiddo i Arglwydd y Cwmwd ac wedyn i frenin Lloegr (neu'r 'goron'), ac mae ambell i ddarn bach yn aros felly - megis Comins Tŷ'n Rhos, ychydig is na chapel Brynrhos. Mor ddiweddar a 1810, roedd teithiwr yn gallu honni bod "the wastes of Rhos Ninian...remain untouched and [any enclosure] unattempted".[4] Dyma, mae'n bur debyg, pam fod trigolion y tyddynod a'r tai moel ar Ros Nenan wedi cael trafferth i berswadio'r awdurdodau i fabwysiadu'r ffyrdd bach at eu tai - gan fod y lonydd hyn yn rhan o gomin y Goron.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Wenna Williams (gol.), Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), t.8
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/20981. Llythyr dyddiedig 1844, oddi wrth asiant y Goron.
  3. Journals of the House of Commons, Cyf. 82, t.341.
  4. Edmund Hyde Hall, A Description of Caernarvonshire (1809-1811), (Caernarfon, 1952), t.213