Brwydr Brynderwin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:24, 29 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frodyr Owain Goch a Daydd tua chanol mis Mehefin 1255 oedd Brwydr Bryn Derwin. Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr.

Mae Bryn Dewin yn ymyl Bwlch Dau Fynydd yn ucheldir plwyf Clynnog Fawr yng nghantref Arfon ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn' a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn.. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Phen Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.[1]

Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:

   Gwelai wawr ar wŷr lliosydd,
   Fal gŵr yn gwrthladd cywilydd,
   A welai Lywelyn, lewenydd - dragon,
   Yng nghymysg Arfon ac Eifionydd.
   Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd,
   Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.[2]

Llyfryddiaeth

J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Pennod II: 'Bryn Derwin'. Ymdriniaeth fanwl ar gefndir y frwydr a'i chanlyniadau.

Cyfeiriadau

  1. J.E. Lloyd, A History of Wales, Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5
  2. Wicipedia [1] adalwyd 29.03.2018