Llyfr Beuno
Hen lyfr llawysgrif a gollwyd oddeutu'r flwyddyn 1600 oedd Llyfr Beuno, neu Tiboeth (sef 'heb losgi') a gedwid yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr yn y canol oesoedd. Dywedir ei fod wedi ei ysgrifennu yn y 7eg ganrif gan Sant Twrog, i gofnodi'r tiroedd a 'r hawliau a oedd wedi eu rhoi i'r clas a sefydlwyd yng Nghlynnog Fawr.
Sonnir am y Tiboeth gan Iolo Goch, ac felly mae'n bosibl mai goroesi'r tân pan losgwyd Eglwys Clynnog yn 978 gan ymosodwyr Danaidd a arweiniodd at yr enw, yn hytrach na'r tân diweddarach yn Eglwys Clynnog yn ystod y 15g.
Roedd arno glawr haearn, wedi ei addurno â gemau, yn cynnwys un tywyll a oedd, oherwydd iddo gael ei nodi'n benodol, yn debygol o fod yn fawr iawn neu'n hynod o ran lliw.
Mae Dr John Davies, Mallwyd, yn ei eiriadur, (1632), yn dweud mai'r un olaf i'w weld oedd Syr Thomas Wiliems, Trefriw, a hynny ym 1594. Erbyn yr 17g roedd ar goll ac ni chafwyd sôn amdano wedyn. Mae'n debyg iddo gael ei gadw yng Nghyff Beuno, y gist hynafol yn Eglwys Clynnog.
Mae Eben Fardd yn adrodd hen bennill[1]:
Tybwyd y cadwai Tiboeth, Yn ei ffurf, oer na phoeth; Ond mwy nid oes dim un darn O'i gloer wiw, a'i glawr haearn.
Cyfeiriadau
- ↑ Eben Fardd, Cyff Beuno, (Tremadog, 1864)