Capel Seion (MC), Gurn Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:54, 29 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel Methodist yn ardal Gurn Goch yw Capel Seion.

Credir i’r addoldy hwn ei adeiladu o ganlyniad diwygiad 1818. Cwblhawyd y gwaith adeiladu yn 1826 a rhoddwyd prydles o 101 mlynedd ar y Capel am 6 swllt y flwyddyn. Cyn addoli yn y Capel hwn, roedd Methodistiaid yr ardal yn mynychu annedd-dŷ’r Hen Derfyn gyda’r ysgol Sul yn cael ei gynnal yn nhai gwahanol aelodau o’r gymuned.

Ail-adeiladwyd y Capel a chodwyd tŷ ar y safle yn 1875, gyda cost o £700. Credir i’r ddyled ei dalu yn ôl i gyd o fewn 7 mlynedd o agor y Capel[1].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) t. 66-73