Ffynnon Edliw

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:29, 26 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffynnon Edliw, a rhoi'r enw mwyaf cyfarwydd ar y ffynnon hon ym mhlwyf Llandwrog, yn hen ffynnon heb fawr o hanes iddi, ond eto mae hi'n hen iawn. Enwau eraill a arddelid ar y ffynnon hon yn y gorffennol oedd Ffynnon Odliw a Ffynnon Adliw. Ni chynhwysir mohoni yn rhestr bur gyflawn Francis Jones yn ei lyfr[1]

Mae'n sefyll nid nepell o borthdy mawr Glynllifon, yr ochr arall i'r lôn bost iddo, ac ychydig i'r de, mewn darn o goedwig a elwir yn "Goed Ffynnon-edliw" ar fapiau Ordnans (cyf SH 44915539). Mae waliau o waith cerrig a charreg fawr o lechen ar ei phen yn golygu ei bod yn cael ei gadw'n weddol amlwg. Mae pwll o fewn terfynnau'r wal, tua 4 troedfedd wrth 2 droedfedd a hanner.[2]

Yr oedd y ffynnon hon yn un o'r ffynhonnau a gyfrifid yn sanctaidd gan bererinion y Canol Oesoedd pan oeddynt ar eu taith o Fangor i Ynys Enlli.[3] Nid syndod hyn, ac ystyried fod safleoedd crefyddol arall gerllaw, sef Eglwys Llandwrog ryw dri lled cau i ffwrdd, a safle hen fetws Betws Gwernrhiw bron gyferbyn â'r ffynnon yr ochr arall i'r ffordd fodern.

Cyfeiriadau

  1. Francis Jones, The Holy Wells of Wales, (Caerdydd, 1954)
  2. Comisaiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf 2, t.198.
  3. http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffynhonnau%27r_pererinion.htm