Gwilym R. Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:59, 19 Mawrth 2018 gan Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd, newyddiadurwr a golygydd y cylchgrawn wythnosol Y Faner am dros 25 mlynedd oedd Gwilym Richard Jones (Gwilym R. Jones) (24 Mawrth 1903 – 29 Gorffennaf 1993).

Chwarelwr oedd ei dad, John William Jones, brodor o Rostryfan, ac un o Uwchmynydd oedd ei fam, Ann Jones. Cadwent siop bapurau newydd, Cloth Hall, ond y fam a fyddai'n bennaf cyfrifol amdani gan y byddai'r tad yn ei waith yn y chwarel erbyn 6 o'r gloch y bore ac yno y byddai am 12 awr. Dywedid y byddai llawer o'r chwarelwyr yn gorfod disgyn ar hyd canllath a mwy o ysgolion i waelod twll chwarel Dorothea cyn dechrau gweithio a dringo'r un ysgolion sythion ar derfyn diwrnod o waith.

Yn blant ysgol byddai Gwilym R. a'i frawd Dic yn gwerthu ugeiniau o filoedd o gopiau o'r Genedl,Yr Herald Cymraeg, Y Dinesydd, Y Werin, Yr Eco a Phapur Pawb ar strydoedd Tal-y-sarn ac wrth gatiau Chwarel Dorothea, a daeth Gwilym R. yn fuan i ddanfon newyddion lleol yr ardal i swyddfeydd y papurau newydd yng Nghaernarfon. Nid yw'n rhyfedd iddo ddod yn newyddiadurwr.

Dyma grynodeb o'i yrfa.

  • Gohebydd i bapurau'r Herald, Caernarfon (cyflog: "punt am wythnos o 60 o oriau o waith caled".)
  • Golygydd Herald M&ocirc:n am ddwy flynedd, hyd at 1931. Byw ym Mhorthaethwy.
  • Golygydd Y Brython yn Lerpwl, 1931-1939.
  • Golygydd y North Wales Times ac Is-olygydd Y Faner yng Ngwasg Gee, Dinbych. Derbyniodd y gwahoddiad hwn ar sail hen gyfeillgarwch rhwng Morris T. Williams, priod Kate Roberts ac yntau. "Bychan oedd y cyflog y gallai Morris ei gynnig imi...ond roedd yna bethau pwysicach nag arian.. fy edmygedd i o fenter Morris a Kate a'u cenedlgarwch nhw..."* Dechreuodd yno ym mis Mawrth 1939.
  • Symudwyd Y Faner i Wasg y Sir, Y Bala. Parhaodd Gwilym R. i fyw yn Ninbych.

cyfeiriadau

  • <Allan o Rhodd Enbyd,Hunangofiant Gwilym R. Jones; Llyfrau'r Faner, (1983).</ref>