Capel Bethel (W), Rhos-isaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:36, 16 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae hen adeilad Capel Bethel yn sefyll ger y gyffordd lle mae prif stryd Rhos-isaf a'r lôn o Rostryfan yn cwrdd. Codwyd y capel, ynghyd â dau dŷ, un o boptu iddo, ym 1836. Bellach mae'r capel wedi ei werthu ac wedi ei droi'n dŷ annedd, ond cadwyd y golwg allanol mwy neu lai fel yr oedd.

Pan oedd system cylchdeithiau cryf mewn grym, rhan o Gylchdaith Caernarfon oedd Capel Bethel.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma