Prosiect:Golygathon 14eg mis Ebrill 2018

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:09, 12 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bellach mae cyfanswm o 1,777 erthygl ar wefan wici Cof y Cwmwd!

Byddwch yn rhan o dwf y wefan, yn dysgu mwy am hanes Uwchgwyrfai, neu'n rannu pwt o hanes sydd o ddiddordeb i chi.

Ar ôl llwyddiant y digwyddiad Golygathon cyntaf penderfynwyd ar ddydd Sadwrn, 14 Ebrill, 10 hyd 1, yn Archifdy Caernarfon ar gyfer yr ail olygathon. Darperir paned yn ystod y bore. Ni chodir unrhyw dâl.

Bydd angen i bawb ddod â gliniadur sy'n rhedeg Windows ac sydd yn gallu cysylltu â Wi-ffi - heblaw eich bod yn hynod o gyfforddus efo defnyddio'r We ar iPad.

Croeso cynnes iawn i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad o wicis na golygu gwefan ymlaen llaw. Bydd rhai profiadol wrth law i'ch helpu i ddod yn gyfarwydd â sut i gyfrannu at Cof y Cwmwd.

I gadw lle anfonwch neges at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net. Y cyntaf i'r felin....felly peidiwch ag oedi!