Rheilffordd Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:21, 9 Hydref 2017 gan Robin Owain (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr oedd 'Rheilffordd Nantlle yn rhedeg o Gei Caernarfon hyd at chwareli Dyffryn Nantlle. Hi oedd y rheilffordd gyntaf gyhoeddus i'w hagor yng Ngogledd Orllewin Cymru dan ddeddf seneddol, a hynny ym 1826.

Y lled rhwng y cledrau oedd 3'6". Er bod awgrym yma ac acw bod pobl yn cael eu cludo trwy eistedd ar wagenni nwyddau, dim ond o 1856 ymlaen sefydlwyd gwasanaethau swyddogol i deithwyr, a hynny nes iddi gael ei phrynu gan hyrwyddwyr Rheilffordd Sir Gaernarfon tua 1863, a'r rhan helaeth o'r trac yn cael ei ledu i'r lled safonol o 4'8 1/2". Arhosai ychydig o'r lein o Orsaf Nantlle (yn Nhalysarn) hyd at y chwareli llechi a wasanaethid ganddi hyd yr 1960au. Ceffylau oedd yn tynnu'r wagenni trwy gydol oes y lein. Ymysg y gorsafoedd i deithwyr roedd gorsaf reilffordd Bontnewydd, Clynnog Road (Llanwnda), Y Groeslon a Phenygroes.