Melin Bodellog
Mae'n amlwg mai rhan o adnoddau trefgordd Bodellog oedd Melin Bodellog, a safai, mae'n debyg, ar Afon Gwyrfai. Hen enw Plas-y-bont yn ogystal ag enw'r drefgordd oedd Bodellog, yn ôl yr hanesydd Gilbert Williams, ac efallai nid oedd safle'r felin yn bell o'r tŷ hwnnw. Ym 1608 roedd y felin werth £60 y flwyddyn i'w deiliaid, ac fe gyfrifid fel melin yr Arglwydd, sef (erbyn hynny) Brenin Lloegr. Mae'n debyg felly bod hen hanes i'r felin yn ymestyn yn ôl i oes y Tywysogion.
Enw arall ar Melin Bodellog oedd Melin-y-groes, yn ôl dogfennau llys o 1627, sydd hefyd yn dweud mai at Felin Bodellog yr oedd rhaid i drigolion Llanwnda, Llanfaglan a threfgordd Bodellog ei hun fynd i gael malu eu grawn. Yr un set o ddogfennau'n nodi hefyd fod y felin hon hefyd yn cael ei galw ar lafar gwlad yn 'Felin y Bont Newydd'. Gwraidd y gynnen yn yr achos llys oedd y ffaith fod Richard Evans, un o feibion Elernion a phercennog Tyddyn y Bont Faen wedi codi melin newydd yno, sef Melin y Bont-faen, a'r felin honno wedi effeithio i'r fath raddau ar fusnes Melin Bodellog fel nad oedd hi'n talu i'w chadw i fynd. Dadleuwyd beth bynnag fod Melin y Bont-faen wedi ei chodi yn lle hen felin arall, sef Melin Cae Mawr ychydig yn uwch yr afon na Melin Bodellog. Yr oedd felin arall wedi bod yn y cyffiniau ers tro felly, ac ni ddylai'r felin newydd effeithio dim ar Melin Bodellog.