Prosiect:Golygathon 14eg mis Ebrill 2018

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:12, 9 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bellach mae cyfanswm o 1,777 ar wefan wici Cof y Cwmwd!

Byddwch yn rhan o dwf y wefan, dysgu rhywbeth am hanes Uwchgwyrfai, neu rannu pwt o hanes sydd o ddiddordeb i chi.

Ar ôl llwyddiant y digwyddiad Golygathon cyntaf penderfynwyd ar 14 Ebrill, 10 hyd 1, yn Archifdy Caernarfon ar gyfer yr ail olygathon. Darperir paned yn ystod y bore. Ni chodir unrhyw dâl.

Bydd angen i bawb ddod â gliniadur sy'n rhedeg Windows ac sydd yn gallu cysylltu â Wi-ffi - heblaw eich bod yn hynod o gyfforddus efo defnyddio'r We ar iPad.

Croeso cynnes iawn i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad o wicis na golygu gwefan flaen llaw. Bydd rhai profiadol wrth law i'ch helpu dod yn gyfarwydd â sut i gyfrannu at Cof y Cwmwd.

I gadw lle anfonwch neges at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net