Melinau Afon Llyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:48, 12 Chwefror 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd melinau Afon Llyfnwy yn bodoli'n bennaf ar gyfer trin llechfaen yr ardal. Nid oes melin yn cael ei chofnodi ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle ond gan fod cymaint o gloddio a gorchuddio'r tir wedi digwydd yn sgîl y diwydiant llechi, dichon fod un neu fwy wedi bodoli yno ar un adeg.

Y melinau neu weithfeydd a ddibynnai ar ddŵr yr afon i droi eu peiriannau yn cynnwys (o ben ucha'r afon i gyfeiriad y môr) ac sydd yn ymddangos ar fapiau Ordnans oedd:

Gwaith Llechi Dorothea, Llanllyfni. Sylwer nad oedd y gwaith hwn wedi ei leoliu'n agos at Chwarel Dorothea yn Nhal-y-sarn. Melin-gerrig, Llanllyfni Pandy Felin-gerrig Gwaith Llechi Glan-yr-afon Gwaith Llechi Pont-y-cim Melin-y-cim, Pontlyfni


Gweler tudalenni ar wahân am fanylion pob melin, trwy glicio ar yr enw yn y rhestr uchod. Rhestrir holl felinau oedd ar ddwy lan yr afon, er bod glan ddwyreiniol yng nghwmwd Isgwyrfai.