Sant John Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:35, 6 Chwefror 2018 gan MarthaEH (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd y Sant John Jones yng Nghlynnog Fawr yn ystod y flwyddyn 1530. Roedd ei rieni yn Gatholigion reciwstanaidd, a buont yn Gatholigion teyrngar trwy gydol ac er gwaethaf y Diwygiad Protestannaidd. Yn ystod ei ieuenctid, fe gredir iddo addoli yn Eglwys Sant Beuno yng Nghlynnog Fawr, cyn ymuno â Mynachlog Ffransisgaidd yng Greenwich. Bod yn ‘Gatholig’ yng ngwir ystyr y gair oedd pwrpas mawr ei fywyd.