John Thorman

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:32, 20 Chwefror 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cerrig beddau teulu John Thorman

Cyrhaeddodd John Thorman stâd Glynllifon ar 28 Hydref 1812 i ddechrau ar ei swydd fel cipar. Fel arfer, chwiliai rheolwyr y stâd am gipar nad oedd yn gyfarwydd â'r bobl leol, ac felly'n llai tebygol o droi ei gefn pe gwelai rywbeth amheus yn ystod ei ddyletswyddau. Doedd Thorman ddim yn eithriad yn hynny o beth. Ganed ef yn Easingwold, Swydd Efrog, tua 1783.

Cadwodd Thorman ddyddiaduron am bron i hanner canrif wedi eu hysgrifennu yn ei dafodiaith nodweddiadol o Swydd Efrog. Ynddynt mae'n cofnodi ei ddyletswyddau fel cipar, hanesion y stâd, ei deulu a’r fro.

Yn ogystal â hanes ei waith mae’n cofnodi’r tywydd, e.e storm pan olchodd y môr dros dir Caer Loda, comed danllyd a welodd ar Orffennaf 8fed 1816, diffyg ar yr haul a rhew a barhaodd am chwe wythnos yn ystod gaeaf 1820/1821.

Arhosodd y teulu yn yr ardal ar ôl dyddiau John Thorman, ac mae ei ddisgynyddion yn yr ardal o hyd, ac yn Gymry Cymraeg ers cenedlaethau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma