Côr Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:34, 10 Rhagfyr 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffurfiwyd Côr Tal-y-sarn fis Chwefror 1881 gan gerddor ifanc addawol, Edward Owen (Iorwerth ap Owain)[1], brawd Mair Alaw ac ewyrth i'r Brodyr Francis. Mae cofnod fod y côr wedi cystadlu yn erbyn Côr Pen-y-groes yng Nghylchwyl flynyddol Undeb Llenyddol Tal-y-sarn fis Mehefin yr un flwyddyn, dan arweiniad Iorwerth ap Owain.[2] Aeth Iorwerth ap Owain ymlaen i goleg cerdd ac i greu gyrfa fel unawdydd a beirniad yng Nghymru, ac wedyn ar draws Prydain, gan symud i Lundain, ac ni cheir fawr o sôn am y côr ar ôl 1881.

Roedd nifer o gorau dros y blynyddoedd, o 1871 am hanner canrif a mwy, yn perfformio mewn cyngherddau a chystadlu mewn cyfarfodydd cystadleuol yn yr ardal dan enw côr Tal-y-sarn (sylwer ar y llythyren fach!) ond mae cyd-destun y cyfeiriadau'n tueddu awgrymu mai corau ad hoc neu dros dro oeddynt, wedi eu harwain gan arweinyddion a oedd yn wahanol bron bob amser, a'r aelodau wedi dod at ei gilydd, mae'n debyg, er mwyn cystadlu neu berfformio mewn digwyddiad penodol.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Genedl Gymreig, 10.2.1881, t.7
  2. Y Genedl Gymreig, 9.6.1881, t.7
  3. Papurau newydd Cymraeg, passim, wedi eu harchwilio yn wefan Papurau Newydd Digidol LlGC.