Tafarn Sign Horse

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:29, 30 Hydref 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai dafarn o'r enw Sign Horse yn ardal Treddafydd o bentref Pen-y-groes tua chanol y 19g. Ychydig o sôn sdydd am y dafarn ddi-nod hon, ond un cyfeiriad arall sydd wedi dod i'r golwg yw hynny yn atgofion Owen Owen, lle nodir bod "Sign Horse" wedi ei godi tua 1835 yn Nhreddafydd gan Evan Williams.[1] Ystyr yr enw, mae'n debyg, yw'r ffaith fod arwydd gyda llun o geffyl yn dynodi'r dafarn gan ei bod ynghanol rhes o dai.

Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai Elizabeth Griffiths oedd tafarnwraig yr Horse.[2] Tair blynedd yn ddiweddarach, enwir Edward Griffith fel y tafarnwr.[3]

Cyfeiriadau

  1. Owen Owen, Hen Atgofion am Pen-y-groes
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3
  3. Cyfeiriadaur Masnach Slater, 1868