Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:25, 28 Hydref 2025 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Ellis Roberts, (1827-1895), bardd, melinydd ac offeiriad, yn Llwyn-y-gwalch, ger Y Groeslon, er bod cofiant byr iddo'n honni mai mewn lle a elwid yn "Talcen Tragwyddol" y cafodd ei eni, ger Glan-llyn, Y Groeslon.[1] Roedd yn drydydd mab i Morris Roberts (Eos Llyfnwy) a Margaret ei wraig - ac yn ŵyr i Robert Morris (Robin Ddu Eifionydd). Ar ôl treulio ychydig o amser yn gweithio yn Chwarel Cilgwyn, bu'n felinydd am 12 mlynedd yn helpu ei dad, a oedd yn cael ei gyflogi ym Melin Forgan i ddechrau, yn bennaf fel cariwr, yna ym Melin Wnda ac wedyn i Felin Llanllyfni. Yno cafodd Ellis niwed sylweddol i'w law pan gafodd ei gwasgu rhwng meini'r felin, gyda'r effaith yn aros gydag ef weddill ei oes. Yn Llanllyfni, cymerodd yr offeiriad Anglicanaidd, y Parch. John Jones, ddiddordeb ynddo ef a'i awen gynnar, gan ei annog i geisio mwy o addysg. Yn 23 oed, aeth am ryw hanner blwyddyn i Ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr. O weithio ym Melin Llanllyfni aeth i Goleg Hyfforddi Caernarfon, coleg dan nawdd yr Eglwys.[2] Bu'n cadw ysgol yn Y Waunfawr, Arfon, a Llwyn-y-gell, Ffestiniog, hyd 1862. Priododd ag ysgolfeistres Llwyn-y-gell, Esther Mary Roberts, ym 1854 a chafodd y ddau ferch a thri mab a aeth ymlaen i gael eu hordeinio yn yr Eglwys Anglicanaidd. Cafodd Ellis Roberts ei ordeinio'n ddiacon yn Esgobaeth Llanelwy ym 1862. Bu'n gurad yn Rhosymedre, yn ficer Llanfihangel Glyn Myfyr, ac yn olaf yn ficer Llangwm (oll yn Sir Ddinbych), a bu farw yn Llangwm ym 1895.[3].

Fe ystyrir ei waith llenyddol bellach yn drwm ac anhygyrch i'r darllenydd modern, ond bu'n fardd gweddol lwyddiannus a chynhyrchiol. Ysgrifennodd Awdl y Sabboth (1856); Awdl Maes Bosworth (1858) ac ambell i waith Saesneg, ymysg pethau eraill. Bu'n awdur rhyddiaith hefyd ac yn olygydd papur yr Eglwys Sefydliedig yng Nghymru, Yr Haul. Mae'r Cydymaith yn canmol ei "ganu natur swynol".[4]

Cyfeiriadau

  1. Papur Pawb, 24.11.1894, t.4
  2. Papur Pawb, 24.11.1894, t.4
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig, tt.810-11
  4. Meic Stephens (gol),Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, (Caerdydd, 1986), t.507