Helfa Pen-y-groes
Ni wyddys fawr am Helfa Penygroes ond cynhaliwyd cyfarfod fis Ionawr 1828 ac ymhen y flwyddyn eto yn Ionawr 1829. Ar ôl dilyn yr helgwn, aeth pawb i dafarn y Stag am ginio. Gelwid y meistr yn "Comptroller" (sef Rheolwr neu Feistr) ac roedd ganddo ddirprwy. Ym 1828, Griffith Jones oedd y meistr, a Robert Lloyd oedd ei ddirprwy. Y flwyddyn ganlynol, Robert Lloyd oedd y meistr, gyda dyn o'r enw Samuel Wagstaff yn ddirprwy iddo.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ North Wales Chronicle, 10.1.1828, t.2; a 1.1.1829, t.2