Thomas Jones (Eos Beuno)
Roedd Thomas Jones (1849-1936), a ddefnyddai'r ffugenw Eos Beuno, yn hanu o blwyf Llanwnda. Mab Ffatri wlân Bontnewydd ydoedd, a'i dad Daniel Jones (g.1805) a hanai o Lanbeblig wedi cymryd y felin ar ôl symud o Sir Fôn gyda'i wraig Anne o Fiwmares tua tair blynedd cyn ei eni ym 1849. Roedd yn adnabyddus fel unawdydd, arweinydd cyngherddau ac adroddwr. Yn ddyn ifanc, roedd yn wehydd wrth ei waith bob dydd, mae'n debyg iddo weithio yn ffatri ei dad oedd gerllaw ei dŷ, sef un o dai Ynys Bont ger Capel Libanus (A), Y Bontnewydd, ym 1871. Erbyn 1881, roedd yn byw yn Lodj Plas-y-bryn. Roedd yn 31 erbyn hynny, a'i wraig Elizabeth yn 28. Ail wraig iddo oedd hi, wedi iddo golli ei wraig gyntaf Susannah. Roedd ganddynt ferch fach, Hannah, 10 mis oed.[1]
Erbyn 1891, roedd wedi newid ei alwedigaeth, gan iddo gael ei ddisgrifio fel delkiwr mewn te a groser. Roedd yn dal i fyw yn y Lodj, ac erbyn hynny roedd tri mab gan Thomas ac Elizabeth. ERbyn 1911, roedd wedi mabwysiadu'r enw canol Beuno, ac yn byw yn 2 Rhes Libanus, [[Y Bontnewydd], gerllaw y Lodj lle bu'n gartref i'r teulu.[2] Roedd yn dal i weithio fel gwerthwr te. Yn ystod 1886-7 bu'n wael iawn, a chodwyd y swm sylweddol (y pryd hwnnw) o £18 iddo mewn darlith a chyngerdd yng Nghapel Libanus.[3]
Adroddwyd am berfformiadau ganddo yn y papurau newydd lleol yn gyson o'r 1870au ymlaen, gan deithio mor bell g ardal Wrecsam.[4]
Roedd o'n gefnder i y cerddor amlwg, John Jones (Eos Bradwen), Caernarfon (1831-1899).[5]
Bu farw 30 Mai 1936, ac fe'i claddwyd ym mynwent Bryn'rodyn.[6] Mae rhan o hunangofiant llawysgrif a barddoniaeth o'i eiddo yn Archifdy Gwynedd.[7]
Cyfeiriadasu
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanwnda 1851-1881
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1891, 1911
- ↑ Y Genedl Gymreig, 28.12.1887, t.6
- ↑ 'Wrexham and Denbighshire Advertiser, 29.12.1877, t.6
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar'lein, cyrchwyd 26.9.2025; Y Genedl Gymreig, 6.6.1899, t.5
- ↑ Gwefan Find a Grave, cyrchwyd 25.9.2025
- ↑ Archifdy Gwynedd, XM/11681