Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46
CYMDEITHAS AMAETHYDDOL CLYNNOG 1909-1946 [1]
Yr oedd Cymdeithas Clynnog bron cyn hyned â Chymdeithas Eifionydd, ac mewn llawer peth yr oedd ei hanes cynnar yn ddigon tebyg i eiddo Cymdeithas Eifionydd. Fe’i cofrestrwyd ar 6 Mawrth 1909, ond wrth gwrs yr oedd y gwaith paratoawl wedi parhau am gryn amser cyn hynny, er nad oes gennym gymaint o wybodaeth am y cychwyniad â chydag Eifionydd. Yn Coachhouse Pennarth, Clynnog, y cychwynnwyd hi, ac nid hi yn unig a gychwynnwyd yno, oherwydd yno y byddai amaethwyr y cylch yn dod ynghyd i drafod pob pwnc pwysig. Mae Pennarth yn enw hanesyddol yn y cylch : sonnir am y lle yn y Llyfr Du o’r Waun, y llawysgrif hynaf o Gyfraith Hywel Dda, a sgrifennwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg; ac yn y cyfnod hwn ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, Pennarth oedd canolfan diwylliant amaethyddol y cylch. Yr oedd y fferm yn un o’r ychydig nad oeddynt ar stad Glynllifon, a’r teulu’n byw yno ers chwe chan mlynedd; ac yr oedd Hugh Owen, Pennarth, yn arweinydd ymhlith ei gyd-amaethwyr.
Felly i’r coachhouse helaeth ym Mhennarth y deuai amaethwyr y cylch, pan fyddai ganddynt unrhyw bwnc o bwys i’w drafod. Bu yno gyfarfodydd addysgol, dan nawdd adran allanol Coleg y Gogledd ym Mangor; a dechreuodd yr amaethwyr gyd-weithio yno drwy uno â’i gilydd i brynu tarw – tarw du Cymreig, wrth reswm – er mwyn gwella’u stoc. Cafodd sawl un lwyddiant mawr â bustych a gaed gan y naill neu’r llall o’r teirw a fu’n gyd-eiddo i ffermwyr y cylch yn ystod y blynyddoedd; a dywedir mai o’r Clwb Tarw y cododd y symbyliad i gychwyn cymdeithas gydweithredol. Beth bynnag am hynny, ym Mhennarth, rywbryd tua dechrau 1909, yr aed ynghyd â ffurfio’r Clynnog Fawr Farmers’ Association Ltd, gyda Hugh Owen yn gadeirydd a H. J. Williams, Cefnartho, yn ysgrifennydd. Cefnartho oedd swyddfa gofrestredig y Gymdeithas, a rheolau parod y Gymdeithas Drefnu Gwledig (y Gymdeithas Gyd-drefnol Amaethyddol, chwedl copi Cymraeg y rheolau) a dderbyniwyd; arwyddwyd hwy gan Hugh Owen; Lewis Owen, Lleuar Bach; D. O. Williams, Tŷ Mawr; Evan Jones, Coedyno [Coed Tyno?]; John Parry, Ysgubor Fawr; John Jones, Lleuar Fawr; a’r Ysgrifennydd.
Amcan y Gymdeithas, yn ôl y rheolau, oedd “cario yn mlaen fasnach mewn prynu neu hurio anifeiliaid, ac hefyd fasnach gyfanwerthol a mân-werthol mewn angenrheidiau amaethyddol, llaethdai, cynychion fferm, a chynyrchion gerddi, wyau a dofednod, ac yn mhob dosparth arall a farno y Pwyllgor yn ddoeth gyfarwyddo; ac mewn unrhyw gangen o ddiwydrwydd masnachol a fydd trwy gyd-gynorthwy yn dwyn mwy o elw i weithio ffermydd, mân-ddaliadau, neu randiroedd”, ond ar werthu nwyddau i’r aelodau y canolbwyntiodd y Gymdeithas o’r cychwyn. Ymunodd 32 o aelodau â hi erbyn diwedd 1909; yng nghylch Clynnog yr oedd eu ffermydd oll, ac nid estynnodd y Gymdeithas ei chortynnau’n bell iawn byth. £576 oedd gwerth y fasnach am y flwyddyn gyntaf; a thebyg iawn i ddull Cymdeithas Eifionydd o weithio oedd ei dull hithau. Yn union fel y deuai amaethwyr Pencaenewydd i orsaf Chwilog i gyrchu nwyddau, felly y deuai amaethwyr Clynnog i orsaf Penygroes, a derbyn y bwydydd a’r gwrteithiau drwy law’r ysgrifennydd yn syth o’r tryciau i’r troliau. Ac megis yng Nghymdeithas Eifionydd, un o’r amaethwyr oedd yr ysgrifennydd cyntaf, nes i’r gwaith fynd yn ormod iddo oherwydd poblogrwydd y Gymdeithas – a hynny’n ddigon buan: ym mis Rhagfyr 1909 dewiswyd T. W. Williams, Gwynfa, Penygroes, yn ysgrifennydd, a’r mis nesaf symudwyd y swyddfa gofrestredig i Gwynfa, lle y bu hyd y diwedd. Yr oedd T. W. Williams yntau’n ffermio tir Gwynfa, ond cawsai brofiad mewn busnes ac yr oedd ganddo siop ym Mhenygroes; byddai felly’n haws iddo gadw trefn ar lyfrau’r Gymdeithas. Trwy gomisiwn y telid iddo ac felly y bu tra bu ef yn ysgrifennydd.
Parhaodd yr un drefn o rannu nwyddau’n syth o’r tryciau dan yr ysgrifennydd newydd; deuai llwythi i orsafoedd Llanwnda a Pantglas yn ogystal â Phenygroes - a gellid cael slag 30% am £2 12s. 3d. y dunnell: gofalai’r pwyllgor gael gwahanol brisiau a dewis y gorau bob amser. Dechreuwyd sôn am gael warws i’r Gymdeithas yn Ionawr 1911, ond aeth hi’n Fedi 1913 erbyn agor y warws, a chael cyfarfod o’r Pwyllgor yno am y tro cyntaf. Yng ngorsaf Penygroes, ar dir y rheilffordd, yr oedd y warws : cwmni’r rheilffordd (yr L.N.W.R. y pryd hwnnw) a’i codasai a’i gosod i’r Gymdeithas. Wedi cael y warws, yr oedd sawl peth newydd yn codi: penderfynwyd yswirio’r warws a’r stoc a fyddai ynddi i ganpunt yr un, trefnwyd agor y warws bob prynhawn Mercher, a chael rhywun yno i helpu’r pryd hwnnw; swllt a chwech yr wythnos a delid i’r cynorthwywr hwn am ei waith.
Cafwyd stoc o nwyddau amrywiol i’r warws newydd – mân anghenion fferm megis brwsys a lampau yn ogystal â blawdiau ac india corn, a hefyd rai o anghenion y tŷ, yn arbennig siwgr a the. Ond nid bob yn bwys a chwarter pwys, fel heddiw, y gwerthid y pethau hynny : mewn cistiau y deuai’r te, a phumpwys oedd y swm lleiaf a geffid ar y tro, ac wrth y cant neu’r hanner-cant y gwerthid siwgr. Caed y nwyddau hyn o wahanol fannau: byddai’r pwyllgor yn ystyried gwahanol gynigion ac yn dewis y gorau, ac er bod llawer o’r nwyddau’n dod oddi wrth y C.W.S., daliwyd hyd y diwedd i werthu bwydydd cwmnïau eraill. Yr oedd y Gymdeithas hefyd yn rhoi gwasanaeth o fathau eraill i amaethyddiaeth: er enghraifft, ym mis Mawrth 1910 bu ei swyddogion yn trafod dulliau gwella stoc yr amaethwyr gydag un o arolygwyr y Llywodraeth; wedi hynny buwyd yn trefnu i’r tanc paraffin alw ym Mhennarth er mwyn i’r amaethwyr gael cyflenwad mewn lle hwylus; ac yn niwedd 1910 ceir aelodau o’r pwyllgor yn prynu peiriant gwyngalchu ar y cyd. Ond ni wnaeth y Gymdeithas fawr ddim â marchnata cynnyrch yr aelodau; yr oedd yr amgylchiadau’n bur wahanol yng Nghlynnog i’r hyn oeddynt ym Mhencaenewydd, gan fod cymaint o alw am fenyn oddi wrth chwarelwyr yn Nyffryn Nantlle, a bod y ffermwyr o fewn cyrraedd i farchnad Caernarfon i werthu wyau, a’r farchnad honno, fel y gwelsom, yn rhagori’n fawr ar farchnad Pwllheli yn ei phrisiau. [2]
Gydag agor y warws newydd yr oedd cyfrifoldeb ariannol y Gymdeithas yn cynyddu’n sylweddol. Nid oedd ganddi fawr wrth gefn; ni allai fod, gan iddi geisio gostwng ei phrisiau i’r eithaf : cofnodir mewn un man fod y pwyllgor wedi penderfynu mai 2 ½ y cant o elw a godid ar gyflenwad o fwydydd a brynid, ond rhaid mai eithriad arbennig oedd hwn, onid e ni buasai’r Gymdeithas yn gallu cyflawni’r addewid i dalu’r Ysgrifennydd trwy gomisiwn o chwecheiniog yn y bunt ar yr arian a dderbynnid. Beth bynnag am hynny, wedi agor y warws, bu raid ceisio telerau newydd gan y banc, a chael gan aelodau’r pwyllgor warantu dyled i’r banc o £200 – trefniant cyffredin yn y cyfnod hwnnw, er cryn golled i’r pwyllgorwyr mewn llawer cymdeithas, ond nid yn hon.
Yr oedd aelodaeth y Gymdeithas tua’r trigain erbyn agor y warws, a’r fasnach flynyddol yn weddol sefydlog ers blwyddyn neu ddwy tua’r £1300; hyd yn oed gyda chodiad prisiau adeg y Rhyfel Byd cyntaf, £2,751 oedd y fasnach, a phymtheg a thrigain oedd nifer yr aelodau, yn 1918. Mae’n amlwg fod gwasanaeth y Gymdeithas yn werthfawr, a bod amaethwyr yn gweld ei werth, yn y blynyddoedd hynny : yn y cyfarfod blynyddol yn 1916, “galwoddd yr Ysgrifenydd sylw at fod amryw bersonau heb fod yn aelodau o’r Gymdeithas yn gwneud cais am gael eu cyflenwi a nwyddau”, a “pasiwyd nad oedd dim yn groes i’r rheolau iddynt gael, ac fod yr Ysgrifennydd i werthu iddynt, ond nid o angenrheidrwydd am yr un brisiau, a thelerau, ac i’r aelodau”. Yn yr un cyfarfod soniwyd am agor cangen yn Llanwnda, er mwyn i amaethwyr y cylch hwnnw ymuno; ond adroddwyd y flwyddyn wedyn mai “ ‘fflatio’ ddarfu y mater”, ac na bu raid cael y pwyllgor ynghyd i’w ystyried.
Bellach nid oedd y pwyllgor yn cwrdd yn aml; aethai dyddiau prysurdeb y pwyllgor heibio cyn dechrau’r Rhyfel, ac o hyn ymlaen ni byddai’r pwyllgor yn cyfarfod ond pan fyddai rhywbeth arbennig yn galw am sylw. Bu raid cael cyfarfod felly yn 1917, pan roddwyd rheolaeth ar werthu gwrteithiau a dogni ar siwgr; gwnaed cais am gydnabyddiaeth i’r Gymdeithas fel gwerthwr gwrteithiau, ond gadawyd llonydd i’r siwgr
Yng nghyfarfod blynyddol 1918, eto, “galwodd Mr. Robert Thomas Pantdu sylw at yr angen i barhau i ‘gradio’ anifeiliaid ym Mhenygroes ac fod yn afresymol fod amaethwyr y rhan hon o’r wlad yn gorfod mynd a hwy i Carnarvon i’w gradio, cyflwynodd petition at yr awdurdodau yn galw am hyn, yr hwn a arwyddwyd gan bawb oedd yn bresenol”; ac yn yr un cyfarfod buwyd yn edrych ymlaen at y dyfodol mewn trafodaeth faith ar sefyllfa ariannol y Gymdeithas : er bod y cyfarfod yn teimlo bodlonrwydd yn sefyllfa foddhaol y Gymdeithas ar y pryd, gwelwyd fod angen rhywbeth mwy er mwyn wynebu’r hyn a oedd yn debyg o ddod yn y blynyddoedd nesaf, a phenderfynwyd fod y pwyllgor i ystyried codi cronfa i fod yn gyfalaf gweithiol yn y banc.
Nid yw’n amlwg iawn oddi wrth y cofnodion a wnaed dim ynglŷn â’r penderfyniad hwnnw : bu’r ysgrifennydd yn wael ei iechyd yn 1919, ac ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno penodwyd ei fab, T. J. Williams, a oedd ar y pryd yn llythyrdy Llanllyfni, yn ysgrifennydd yn ei le, ar yr un telerau â’i dad. Tebyg fod y gwaed newydd hwnnw wedi bywiocáu llawer ar y Gymdeithas : neidiodd yr aelodaeth o 75 i 160 yn 1920, a’r fasnach am y flwyddyn (a oedd yn £4,101 yn 1919) i £10,283. Lleihaodd prisiau wedi’r adeg ryfedd honno, ac ni bu gwerthiannau blwyddyn fyth gyfuwch wedyn, ond daliodd swm y fasnach tua’r lefel newydd, os nad yn uwch; yn wir, bu’r fasnach yn syndod o gyson, rhwng £6,000 ac £8,000 y flwyddyn, tra parhaodd y Gymdeithas i weithredu ar wahân.
Bu cynnydd yn y fasnach yn y cyfnod hwn, ac ehangwyd peth ar gylch gwasanaeth y Gymdeithas. Rywbryd cymerwyd swyddfa a warws ar y Cei yng Nghaernarfon ar rent, ac ym mis Mai 1920 daeth cais at y pwyllgor am dderbyn aelodau o ardal Bethesda. Daeth ysgrifennydd Undeb Amaethwyr Bethesda i gyfarfod o’r pwyllgor yn Nghaernarfon ym mis Mehefin, ond “penderfynwyd ynglyn a chyfeillion Bethesda ar hyn o bryd i beidio derbyn ei tanysgrifiadau ond pe dymunent y byddai i’r ysgrifenydd roddi archeb am nwyddau iddynt trwy y Gymdeithas hon”. Nid oes sôn wedi hynny yn y cofnodion am gyfeillion Bethesda, ac erbyn mis Mawrth 1921 yr oedd y pwyllgor yn ystyried cau swyddfa Caernarfon; penderfynwyd gwneud hynny ym mis Rhagfyr, a’r un pryd dechreuwyd ystyried ehangu’r adeilad ym Mhenygroes. Y adeg honno yr oedd y warws yno ar agor ddau ddiwrnod yr wythnos, sef o ddeg y bore hyd hanner dydd ac o un hyd bedwar y prynhawn bob dydd Mawrth a dydd Gwener.
Yr adeilad newydd a gafodd y prif sylw yng nghyfarfodydd y pwyllgor yn awr. Bellach yr oedd safle ariannol y Gymdeithas yn weddol gadarn : yr oedd cyfalaf gweithiol wedi’i sicrhau drwy drosglwyddo £200 (a grynhowyd, mae’n ddiau, yn ddifidend ar bryniadau’r Gymdeithas gan y C.W.S.) o’r cyfrif benthyg yn y C.W.S. i’r banc; ac yr oedd y Gymdeithas wedi tynhau tipyn ar ei pherthynas â’r aelodau. Coron a dalwyd ar bob cyfran wrth gychwyn y Gymdeithas : penderfynwyd yn 1920 “fod pawb sydd heb dalu y full share o 20/- i’w talu yn ddioed”, a hefyd geisio gan bawb gymryd mwy nag un gyfran, “a phob aelod newydd o dair i fyny”. Penderfynwyd hefyd “fod pawb nad ydynt wedi talu ei Account o fewn y 14 days (sef limit y Gymdeithas) i dalu interest ar ei dyled”. O ganlyniad i hyn oll, yr oedd gweithrediadau’r Gymdeithas yn dangos elw, ond nid oedd dim wedi’i rannu i’r aelodau. Penderfynwyd yng nghyfarfod blynyddol 1922 “yn unfrydol i beidio talu dividend o’r profit ar hyn o bryd”, ac yn 1923 “i beidio am flwyddyn eto, gan fod costau adeiladu warehouse”. Derbyniwyd prisiau am godi’r warws yn Ebrill 1925 : £85 oedd pris y sawl a gafodd y gwaith, a thalwyd deg swllt ar hugain am dynnu’r plan a’r cyfarwyddiadau gwaith.
Wedi cael y adeilad newydd, penderfynwyd ei hagor bob bore Sadwrn yn ogystal â’r dyddiau arferol, a rhoddwyd hawl i’r ysgrifennydd i wario o chweugain i bymtheg swllt yr wythnos am gymorth yn y warws. Nid oes gyfeiriad at elw na rhannu elw yng nghofnodion cyfarfod blynyddol 1924, yn union wedi talu biliau olaf yr adeilad newydd, ond yn 1925 penderfynwyd talu swllt o log “ar pob share sydd wedi cael ei thalu yn llawn”, a “3d. y bunt ar yr hyn a brynwyd gan bob eulod sydd wedi talu ei share yn llawn, ac hefyd wedi talu ei dyledion i ddiwedd y flwyddyn”, ond bod “i bawb adael ei llog a’r dividend at wasanaeth y Gymdeithas ar hyn o bryd”.
Er gwaethaf yr amod ar y diwedd, fod yr arian yn aros at wasanaeth y Gymdeithas, tipyn o syndod yw gweld cymdeithas yn talu llog am y tro cyntaf yn nyddiau blinion y 20’au; ac ni allodd Cymdeithas Clynnog wneud hynny bob blwyddyn. Yn 1927 y talwyd nesaf, grot yn y bunt – a hynny “mewn nwyddau”; talwyd tair ceiniog yn y bunt yn 1929, a daliodd y Gymdeithas at y rheol na thelid ond i’r rhai a fyddai wedi talu pob dyled. Ond ychydig o ôl yr amserau drwg sydd i’w weld yn amlwg yn hanes y Gymdeithas : arwydd ohonynt yw gwaith y pwyllgor yn ystyried beth a ellid ei wneud i gael y dyledion i mewn, ac yn penderfynu rhoi rhybudd o chwech wythnos yn enw’r pwyllgor. Arwydd arall oedd ceisio cael prynwr y C.W.S. i’r ardal i brynu anifeiliaid tewion; nid oes gofnod fod dim wedi dod o’r cynllun hwn i wella marchnad cynnyrch y cylch.
Rhaid fod amaethwyr yn y cyfnod hwn yn gweld gwerth yng ngwasanaeth y Gymdeithas : fel y sylwyd eisoes, daliodd ei masnach yn rhyfedd o gyson drwy’r blynyddoedd, a llwyddodd i dalu’r ffordd ac i roi rhywfaint yn ôl i’r aelodau yn y rhan fwyaf o’r blynyddoedd. Mwy na hynny, mae’n amlwg fod angen adnoddau newydd i gyfarfod â galw’r aelodau am wasanaeth : yn 1928 penderfynwyd fod raid i’r ysgrifennydd gael cynorthwywr rheolaidd, a phenodwyd gŵr i weithio dydd Llun, Mawrth, Mercher, a Gwener, am bunt yr wythnos; ac yng nghyfarfod blynyddol 1929 “cafwyd trafodaeth ar y priodoldeb o rentu warehouse arall gan yr L.M.S. Rhoddwyd caniatad i’r Ysgrifenydd wneud hyny am rent rhesymol”. Yna, yn Ebrill 1931, “cafwyd eglurhad gan yr Ysgrifenydd ar yr Office Newydd. Costau ei hadeiladu oedd £26 yn cynhwys y fittings oddi mewn, a’r Ground Rent i’r L.M.S. yn y flwyddyn yn 10/-”, a “pasiwyd i brynu’r Office am y pris”. Dair blynedd yn ddiweddarch, penderfynwyd ychwanegu darn eto at y warws.
Hyd yma, ar dir y rheilffordd bu adeiladau’r Gymdeithas oll; y flwyddyn wedi’r ehangu diwethaf ar y warws, daeth cyfle ar dir y tu allan, ac ym mis Tachwedd 1935 prynwyd “shed y monumental works”, a chael prydles am bum mlynedd ar y tir lle y safai. Gwnaed gwelliannau pwrpasol ar y sied a’r tir, a symudwyd y swyddfa o’i safle yn yr orsaf i’r tir newydd hwnnw. Cyfarfod pur fywiog yn hanes y pwyllgor oedd hwnnw lle y rhoddwyd adroddiad am y tir newydd : gwnaed yno sawl penderfyniad arall â blas newydd arnynt. Er mwyn i’r Gymdeithas gymryd ei lle’n deilwng gyda’r masnachwyr preifat a’r cymdeithasau eraill, awgrymwyd ei bod yn cynnig gwobr yn yr arwerthiant Nadolig, fel y gwnaent hwy, a phenderfynwyd rhoi cwpan arian. Hefyd, gan fod marchnata cynnyrch fferm yn broblem mor fawr ar y pryd, a chynlluniau newydd ar gyfer marchnata yn y gwynt, penderfynwyd ceisio arweiniad ynglŷn â chael gorsaf bacio wyau a gorsaf bacio tatws dan nawdd y Gymdeithas.
Cafwyd cyfarfod arbennig i drafod y cynlluniau marchnata hyn dair wythnos yn ddiweddarach, a daeth Cynfab Roberts, un o drefnyddion Cymdeithas Trefnu Gwledig Cymru, i’r cyfarfod i egluro’r cynlluniau a oedd ar droed. Ar gyfer cynhyrchwyr mawr y bwriadwyd y Cynllun Marchnata Tatws, meddai ef, a’r unig ffordd i amaethwyr yr ardal gael mantais arno fyddai drwy i’r Gymdeithas gael ei chydnabod yn orsaf graddio a phacio; byddai llwyddiant y drefn honno’n dibynnu ar gefnogaeth oddi wrth yr amaethwyr, a phenderfynwyd ceisio cael gwybod pa faint o ddefnydd a wnâi’r aelodau o’r orsaf ped agorid hi. Tebyg nad oedd yr ymateb yn galonogol, oherwydd ni wnaed dim; ychydig o gyfle a oedd i drefniant marchnata yn y cylch : barnai Cynfab Roberts na byddai diben i’r Gymdeithas agor gorsaf bacio wyau, ac er bod yr awgrym wedi’i wneud unwaith eto fod ceisio gwerthu anifeiliaid tewion trwy’r C.W.S., ni threfnwyd dim. Mae’n amlwg nad oedd nerth y Gymdeithas, yn yr amgylchiadau ac yn y cyfnod, yn ddigon i’w galluogi i agor allan mewn meysydd newydd, ond daliodd hi’n gadarn yn ei thiriogaeth gynefin, a’r olwynion yn troi’n esmwyth heb fod angen llawer o iro arnynt : wedi’r cyfarfod hwnnw yn 1935, ni bu’r pwyllgor yn cyfarfod ond rhyw unwaith y flwyddyn, i baratoi at Gyfarfod Blynyddol. Cododd y difidend o chwecheiniog yn y bunt yn 1934 a 1935 i wyth geiniog yn 1936 a naw ceiniog yn 1937 a 1938. Nid oedd pethau cystal yn 1939, a bu raid tolli’r gronfa gadw er mwyn talu chwecheiniog; y pryd hwnnw ni theimlai’r pwyllgor y gellid codi cyflog y ferch a weithiai yn y swyddfa, ond y flwyddyn wedyn yr oedd yr elw’n ddigon i dalu chwecheiniog heb gymorth, a rhoddwyd ystyriaeth i gais yr ysgrifennydd am drefniant newydd ar ei dâl yntau. Yn lle’r comisiwn a gawsai ef, a’i dad o’i flaen, ar hyd y blynyddoedd, penderfynwyd yn awr dalu £4 yr wythnos iddo, a chomisiwn o ddeuswllt y bunt o’r elw a wnâi’r Gymdeithas; codwyd y cyflog o £4 i £5 yn 1945.
Erbyn 1945 codasai’r elw, gyda mantais prisiau gosod y Rhyfel, nes bod y difidend yn ddeuswllt y bunt. Yr oedd tir a fu ar rent gan y Gymdeithas wedi’i brynu (gan yr ysgrifennydd ar ran y Gymdeithas am ganpunt) yn 1941, a bu sôn am gael ystorfa ychwanegol at wrteithiau yn ystod y Rhyfel. Yr oedd y Gymdeithas mewn sefyllfa ariannol gref, ond byddai angen datblygu ei hadnoddau os oedd hi i lwyddo yn y dyfodol, gan fod dulliau gweithio masnachwyr a chymdeithasau wedi newid bron yn llwyr. Bellach ni fynnai’r ffarmwr ddod i’r warws â’i drol i gyrchu ei anghenion fferm; deuai’r lori â hwy i’r buarth drosto, ac eisoes yr oedd rhai aelodau’n edrych yn hiraethus i gyfeiriad Cymdeithas Eifionydd, a oedd yn rhoi’r gwasanaeth hwn ar gyrion deheuol tiriogaeth y Gymdeithas. Gallai cost datblygu’r un gwasanaeth fod yn llethol i gymdeithas fach fel Clynnog; felly pan ddaeth llythyr oddi wrth Gymdeithas Trefnu Gwledig Cymru, yn gofyn ar ran Cymdeithas Eifionydd am ganiatâd i’r gymdeithas honno agor storfa yng Nghaernarfon, “arweiniwyd y drafodaeth at y priodoldeb o uno y ddwy gymdeithas”, ac yr oedd y mwyafrif o’r pwyllgor yn barnu mai mantais fyddai uno. Bu cryn drafod yn y misoedd nesaf rhwng y pwyllgor a chynrychiolwyr Cymdeithas Eifionydd, a Chymdeithas Trefnu Gwledig Cymru yn cynghori; ym mis Mawrth 1946 y daeth y llythyr cyntaf, ac yn Rhagfyr y cynhaliwyd y cyfarfodydd i basio’r penderfyniad a wnâi’r uniad yn effeithiol.
Yn ôl y penderfyniad hwnnw, trosglwyddid holl eiddo a busnes Cymdeithas Clynnog i Gymdeithas Eifionydd, a chymerai Cymdeithas Eifionydd arni’r cyfrifoldeb am holl rwymedigaethau allanol Cymdeithas Clynnog. Câi pob aelod o Gymdeithas Clynnog dair cyfran yng Nghymdeithas Eifionydd am bob cyfran a oedd ganddo yng Nghymdeithas Clynnog, ac addawyd adeiladu storfa newydd ym Mhenygroes mor fuan ag y byddai modd; parheid i roi gwasanaeth o’r hen storfa yn y cyfamser. Gwnaed trefniadau arbennig i ddiogelu sefyllfa ysgrifennydd Cymdeithas Clynnog : ef a fyddai’n gofalu am gangen Penygroes, a chan fod gan Gymdeithas Eifionydd gynllun pensiwn, derbyniwyd ef i mewn iddo a gwnaed taliad arbennig drosto er mwyn iddo gael yr un fantais ag aelodau o staff Cymdeithas Eifionydd. Byddai gan aelodau cylch Penygroes ddau gynrychiolydd ar bwyllgor Cymdeithas Eifionydd, a byddai pwyllgor lleol yn cynghori rheolwr cangen Penygroes. Gan fod y gyfraith yn gofyn am gadarnhau’r penderfyniad hwn i uno dwy gymdeithas mewn ail gyfarfod, penderfynwyd gwneud yr ail gyfarfod yn gyfarfod dathlu. Fe’i cynhaliwyd nos Wener, 27 Rhagfyr 1946, yn y Red Lion Hotel ym Mhenygroes; ac aed drwy’r fusnes ffurfiol yn weddol fuan. Y gwaith pwysicaf oedd dewis aelodau’r pwyllgorau : yn gynrychiolwyr ar bwyllgor canol Cymdeithas Eifionydd dewiswyd R. J. Pritchard, Dolfelin, Llanllyfni, a Hugh Owen, Pennarth – sef mab yr Hugh Owen a fu’n arwain y gymdeithas ar y cychwyn : yr oedd yntau’n awr wedi dod i safle tebyg i’r eiddo’i dad gynt, ac yn gadeirydd y pwyllgor er 1940. T. E. Jones, Penbrynmawr; C. Roberts, Hendy, Pontllyfni; a G. Bowness, Tanybryn, a ddewiswyd gyda hwy yn bwyllgor lleol. Ȃ’r cofnodion ymlaen : “Wedi’r uchod aeth pawb am y wledd briodasol. Cafwyd gwledd i 70 o’r aelodau ar ddwy eisteddiad. Wedi hynny cafwyd anerchiadau gan y llywydd, Mr. H. Owen, Y.H., Pennarth, Clynnog, a phedwar o’r hen aelodau ar hanes y Gymdeithas o’i chychwyn, yr hen aelodau oeddynt Mr. R. J. Pritchard, Dolfelin, Llanllyfni, Mr. David Hughes, Maes Mawr, Clynnog Rd., Mr. D. O. Williams, Plas Cefn coed, Caernarfon, Mr. Owen Jones, Penbrynglas, Penygroes”.
Cyfeiriadau
[1] Codwyd o’r llyfryn Hanes Eifionydd Farmers' Limited 1908-1958 (tud 29-38) a gyhoeddwyd tua Ebrill 1962. Yn ôl y rhagair cafwyd gwasanaeth Mr. Dafydd Jenkins i grynhoi’r ffeithiau a sgrifennu’r hanes. [2] Ar dudalen 6 y llyfryn, ceir y sylw a ganlyn am farchnad Pwllheli: Lle gwael oedd Pwllheli am werthu ymenyn yn y cyfnod hwnnw : byddai pris Pwllheli dair ceiniog y pwys yn llai na phris Caernarfon (a hynny pan oedd pris Caernarfon tua 1s. 3d.). Cyfrifid pris Caernarfon yn ddigon teg, ond byddai ugeiniau o fasnachwyr yn prynu ymenyn ym Mhwllheli a’i gludo i Gaernarfon i’w werthu.
Dymunir diolch yn fawr i Dafydd Roberts, Tir Du, Trefor am deipio'r ysgrif hon a'i darparu ar gyfer ei chynnwys yn Cof y Cwmwd.