Owain Rhys

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:09, 27 Awst 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Owain Rhys yn fab i Richard Morris Jones a Manon Rhys. Yn wreiddiol o Ddol Meredydd, Llandwrog, symododd i Gaerdydd yn 14 oed. Ar ôl graddio mewn Archaeoleg, bu'n gweithio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru am dros 20 mlynedd. Mae o bellach yn gweithio ym maes ymgysylltu cymunedol.

Mae o'n byw yn y Tyllgoed, Caerdydd, gyda'i wraig, Lleucu Siencyn, ac yn aelod o dîm Aberhafren, Talwrn y Beirdd. Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 2025.