Ffrwd Cae Du

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:07, 14 Medi 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffrwd Cae Du yn gasgliad o dai ar un ochr priffordd yr A487, ac un ochr y ffordd sydd yn rhedeg o'r A487 i gyfeiriad Rhostryfan, ac fe ystyrir yn aml fel rhan o'r Bontnewydd. A barnu oddi wrth fapiau Ordnans, fe godwyd tŷ Gwylfa (sydd yn awr yn gartref nyrsio ac a fu ar y dechrau'n ddau dŷ) tua 1910. Fe godwyd y tai cyntaf ar ôl hynny yn y cyfnod cyn yr ail ryfel byd ar hyd y briffordd, gyda'r tai ar hyd lôn Rhostryfan rywfaint yn ddiweddarach. Codwyd ambell i dŷ mewn bylchau yn y rhes wedi hynny, a thua 2003 adeiladwyd ystad fechan Gerddi'r Benar, ar dir a fu gynt yn feithrinfa blanhigion yn perthyn i dŷ cyfagos Benar.

Ymysg y trigolion nodedig, gellir enwi Geraint Lloyd Owen, y cyn-archdderwydd.

Ni fu erioed unrhyw adnoddau cymunedol yma heblaw am arosfan bysiau a blwch post.

Mae'r enw'n ddirgelwch: nid oes nant o'r enw Ffrwd Cae Du yn y cyffiniau, ac ni welir yr enw Cae Du ar fapiau degwm y plwyf. Serch hyn, mae'n hen enw: defnyddir yr enw Ffrwd Cae Du i ddisgrifio rhan o ffin ardal Cyfrifiad 1841, pan nad oedd yr un adeilad yn agos at y lle.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1841; Map Degwm plwyf Llanwnda