Bryn Crach
Bryn Crach (neu weithiau Cae Sais) oedd enw'r hen dŷ yn Llanwnda oedd yn sefyll lle heddiw mae tŷ â'r enw Y Bryn, ond pan y'i codwyd, rhoddwyd yr enw Fern Villa arno. Mae rhestr bennu'r degwm, dyddiedig 1839, yn galw'r cae gerllaw yn "Bryn Corach", a dyna efallai esboniad ar yr enw.[1]
Gweler yr erthygl ar Y Bryn am hanes y sawl a oedd yn byw yno dros y blynyddoedd.