Glynn Bodvel Lewis
Roedd Gwynn Bodvel Lewis (1788-1832), Mount Hazel, Llandwrog yn offeiriad ac yn fardd. Roedd yn unig fab i Thomas Lewis, Casglwr Tollau Caernarfon, ac yn or-ŵyr i un Mary Bodvel, ar ochr ei fam, Mary Hughes. Mynychodd Coleg yr Iesu, Rhydychen, gan raddio'n BA. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad gan Esgob Bangor, Medi 1812.[1]
Priododd ei wraig, Jane Williams, merch y Parch William Willams, rheithor Botwnnog, ym 1812.[2] Bu farw ym 1832, gan adael ei eiddo i'w ferch, Mary Bodvel Lewis a briododd y Parch David Hanmer Griffith, ficer Tregatwg, Castell-nedd ym 1836.[3] Bu i'w weddw, Jane, fyw nes iddi fod yn 96 oed. Bu farw yn Clifton, Bryste, 23 Chwefror 1885.[4]
Roedd Eben Fardd yn ei gyfrif yn fardd o bwys, a nododd ei fod yn un o feirniaid Eisteddfod fawr Caernarfon, 1821. Clywodd Eben G.B. Lewis yn darllen peth o'i waith, sef cân o fawl i Arfon, a oedd wedi cael ei hysbrydoli gan folawd i Eifionydd gan Eben Fardd. Digwyddodd hyn tua 1828. Arferai G.B. Lewis ysgrifennu ei waith barddol mewn llyfr mawr gyda chlo arno - ond ni chafodd Eben ganiatâd ganddo i wneud copi o'r gwaith.[5]
Cyfeiriadau
- ↑ North Wales Gazette, 24.9.1812, t.3
- ↑ The Cambrian, 13.6.1812, t.3
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.176; Y Gwladgarwr, Cyf.IV, rhif 48 (Rhagfyr 1836), t.338
- ↑ Bristol Times and Mirror, 7.3.1885, t.7
- ↑ Eben Fardd, llythyr yn Y Brython, Mehefin 1860, t.235