Tyddyn Mansier
Ceir annedd Tyddyn Mansier rhwng Y Groeslon a Charmel ym mhlwyf Llandwrog. Sillafwyd ail elfen yr enw mewn amrywiol ffurfiau dros y blynyddoedd. Tuthyn y mansier a nodwyd ym 1635 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Tyddyn Maensier a geir yn Rhestr Pennu'r Degwm ym 1842 a Tyddyn Meinsier yng Nghyfrifiad 1851. Tyddyn Meinsier sydd yng Nghyfeiriadur y Cod Post heddiw. Yr ynghaniad lleol yw "Tyddyn Minsha".
Yn yr ail elfen, mansier, yr hyn a geir yw benthyciad o'r Saesneg manger, sef cafn neu focs agored i ddal bwyd anifeiliaid, mewn beudy neu stabal fel rheol. Ceir nifer o amrywiadau ar sillafiad y gair hwn yn Gymraeg. Mansier yw'r ffurf a gydnabyddir gan Geiriadur Prifysgol Cymru, ond mae hefyd yn nodi'r ffurfiau minsiar, mensier, meinsiar, manjar a manger. Yr un peth yn ei hanfod ydi mansier a phreseb, er fod rhai'n awgrymu fod gwahaniaethau rhyngddynt. (Honna rhai fod mansier mewn stabal i ddal bwyd ceffylau a'i fod wedi'i godi oddi ar y llawr ar goesau, tra bo preseb ar lawr mewn beudy yn dal bwyd i wartheg.) Beth tybed oedd mor arbennig ynglŷn â'r mansier yn yr achos yma iddo gael ei anfarwoli mewn enw tyddyn? [1]
Cyfeiriadau
- ↑ Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.249-50.