Tyddyn Botwm

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:05, 5 Ebrill 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif annedd Tyddyn Botwm ym mhen gogledd-orllewinol plwyf Llandwrog, bron ar y ffin â phlwyf Llanwnda. Gallai'r ail elfen yn yr enw fod yn ddefnydd difrïol o'r enw cyffredin botwm, sef tyddyn nad yw'n werth botwm - cyfeiriad efallai at ansawdd wael y tir. Ond y tebygolrwydd yw mai llygriad ar enw personol yw botwm yma. Datblygodd Plas Brereton ar gyrion Caernarfon yn Plas Botwm yn lleol, ac roedd gan deulu Brereton gysylltiadau â phlwyfi Llandwrog a Llanwnda ymysg eraill. Fodd bynnag, mae ffurfiau cynnar a gofnodwyd am Tyddyn Botwm, Llandwrog yn awgrymu mai'r cyfenw Bottom / Botham sydd yma, yn hytrach na Brereton. Yng nghofnodion llys Caernarfon ym 1362 cyfeirir at un Iorwerth Bottom ac at Gwenllian Bottom yno ym 1371. Ym 1650 cyfeirir at Tyddyn y Bottwm (Casgliad Porth yr Aur Additional, Prifysgol Bangor) ac awgryma'r fannod mai cyfeiriad at gyfenw estron sydd yma. Tyddyn bottom a gofnodwyd yn asesiad y Dreth Dir ym 1770 a tyddyn y botom ym 1771. O hynny ymlaen y ffurf botwm a ddefnyddiwyd yn hytrach na bottom. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.242-3