Pen y Bythod

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:54, 29 Mawrth 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif annedd Pen y Bythod rhwng ffordd yr A499 a'r môr i'r de-orllewin o bentref Llandwrog. Rhywsut fe drodd y drydedd elfen yn yr enw o'r unigol i'r lluosog. Pen y Booth a geir yn asesiad y Dreth Dir ym 1771. Nid yw Geiriadur Prifysgol Cymru yn sicr ai benthyciad o'r gair booth Saesneg yw bwth yn y Gymraeg. Fodd bynnag, cwt neu gaban yw'r ystyr yn y ddwy iaith. Ym 1773 cofnodwyd y ffurf luosog Peny Bothod (Casgliad Newborough, Glynllifon), ond y ffurf unigol Pen y bwth sydd yn asesiad y Dreth Dir yr un flwyddyn. Tua 1782 disodlwyd y ffurf Pen y Bwth gan Penybythod a'r ffurf honno a geir ran amlaf ar ôl hynny. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.212-3.