Cae Halen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:36, 27 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cae Halen Bach a Cae Halen Mawr yn anheddau i'r gogledd o bentref Llandwrog. Cyfeirir at Cae Halen mewn dogfen ym 1764 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru), ond ym 1773 ceir y ffurf Cae Helen (Casgliad Newborough, Glynllifon), sy'n adlewyrchu'r duedd yn Arfon at ganol yr 18g i ddod ag enw Helen i mewn i enwau lleoedd oherwydd y diddordeb cynyddol yn yr hanesion am Macsen Wledig ac Elen Luyddog a'u cysylltiadau â Chaernarfon. Ni chydiodd yr enw hwn, fodd bynnag, a dychwelwyd at amrywiaethau ar Cae Halen yn asesiadau'r Dreth Dir. Mae'r enw mae'n debyg yn disgrifio natur hallt y pridd a'r tir yn yr ardal ac mae'r elfen halen yn enw gweddol gyffredin yn enwau lleoedd.[1]


Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.67-8.